send link to app

Ap Cwtsh


4.6 ( 8736 ratings )
Health & Fitness
Desenvolvedor: Moilin Cyf
Darmowy

Cyflwyno dulliau sy’n hybu iechyd a lles yw Ap Cwtsh, megis myfyrdodau cynhenid Cymreig. Mae Ap Cwtsh yn cynnwys sesiynau myfyrio newydd sbon sy’n adlewyrchu ein hiaith, ein hanes a’n diwylliant.

Rhoddwyd enw Cwtsh ar yr ap gan ei fod yn air Cymraeg nad oes modd ei gyfieithu’n iawn i’r Saesneg, ac mae’n cyfleu bwriad a naws yr ap. Mae gwefan Prifysgol Cymru’n dehongli’r gair cwtsh fel hyn;
“Ask a Welsh person what a ‘cwtch’ is and often they’ll give you a fond smile – because a cwtch is evocative – it has the magical quality of transporting someone back to the safety of their childhood.
This corresponds with the word’s other meaning, which is a place to safely store things – if you give someone a cwtch, youre figuratively giving them a ‘safe place’.”

Mae Cwtsh yn hafan i Gymry droi tuag ato er mwyn cychwyn ar y daith o gysylltu’n ddyfnach gyda nhw eu hunain drwy dechnegau myfyrdod sy’n adlewyrchu cynhesrwydd a natur groesawgar y Cymry ac i chi deimlo fel eich bod yn rhoi cwtsh i’ch hun wrth ei ddefnyddio.

Mewn byd sydd yn llawn ansicrwydd, bydd cynnwys Cwtsh yn arwain pobl i ddod i adnabod eu hunain ar lefel ddyfnach mewn modd goddefgar a thyner.
Rydym wedi dechrau’n syml gyda 4 adran fydd yn sbarduno diddordeb ac awydd pobl am fwy o gynnwys tebyg.

O fewn yr ap mae dwy adran;
1. Cyflwyniad i Ap Cwtsh sy’n cynnwys 4 fideo rhagarweiniol i’ch paratoi chi i ddeall mwy am fyfyrio.
2. Y Myfyrdodau sy’n cynnwys 3 sesiwn myfyrio dyddiol, 1 i’r bore, 1 yn ystod y dydd ac 1 i helpu chi i gysgu

Oriau Man y Bore - Myfyrdod byr a syml (tua 8 munud) i osod tôn eich diwrnod. Dywedir mai’r adeg gorau o’r dydd ar gyfer myfyrio yw’n syth bin ar ôl deffro yn y bore. Yn y munudau prin yma, mae ‘na ennyd o dawelwch a llonyddwch i’w ganfod cyn i’r meddwl ddechrau rhedeg ar garlam.
Mwyaf y brys, mwyaf y rhwystr - Sesiwn 5 munud i ddod â chi yn ôl atoch chi eich hun yn ystod diwrnod prysur drwy gysylltu gyda’r corff a’r anadl a dechrau arafu’r meddwl.

Cael Wil i’w Wely - Mae cwsg, ac yn benodol diffyg cwsg, yn broblem fawr i nifer o bobl heddiw.
Felly, dyma sesiwn ymlacio 17 munud o hyd dan arweiniad i ymlacio’r corff a’r meddwl a suo’r gwrandäwr i gysgu.

Gorau adnabod, dadnabod dy hun - Wrth i chi ddod i arfer gyda myfyrio, efallai y byddwch yn dymuno dyfnhau eich ymarfer drwy arbrofi gydag arddulliau myfyrio eraill, a hefyd eistedd heb gyfarwyddyd ac am gyfnodau hirach o amser. Mae’r amserydd yma’n rhoi rhwydd hynt i chi ddatblygu eich ymarfer dros amser.

Noddwyd yr ap gan Lywodraeth Cymru
Cefnogwyd gan Fenter Iaith Abertawe
Awdur yr ap yw Laura Karadog laurakaradog.cymru
Cerddoriaeth gan Delyth ac Angharad Jenkins
Datblygwyd gan gwmni Moilin